Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (216)v2 |
Datganiad gan y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd fod y Bil Tai (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13:30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau ar ôl cwestiwn 2. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 14:18
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar ôl cwestiwn 2. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd.
3 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020
Dechreuodd yr eitem am 15:08
NDM5563 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE ar gyfer 2014-2020, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15:53
NDM5565 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn well gyda’i gilydd ac y dylai’r Alban ddewis aros yn y DU ar 18 Medi 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
37 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod dyfodol yr Alban yn fater i bobl yr Alban.
2. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o wasanaethu'r cysylltiadau cryf rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn yw drwy ysbryd o gydweithredu a chydraddoldeb.
3. Yn nodi y byddai ymwreiddio'r Fformiwla Barnett, fel yr addawyd gan bleidiau'r DU yn yr ymgyrch 'Na' ar gyfer y refferendwm ar 18 Medi 2014, yn niweidiol i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
37 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Cymru, beth bynnag fo'r canlyniad, siarad ag un llais, ac yn galw am weithredu'n gyflym yr argymhellion yn Rhannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac am sefydlu confensiwn cyfansoddiadau ledled y DU i greu cynllun drafft am undeb newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
9 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5565 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn well gyda’i gilydd ac y dylai’r Alban ddewis aros yn y DU ar 18 Medi 2014.
2. Yn credu y dylai Cymru, beth bynnag fo'r canlyniad, siarad ag un llais, ac yn galw am weithredu'n gyflym yr argymhellion yn Rhannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac am sefydlu confensiwn cyfansoddiadau ledled y DU i greu cynllun drafft am undeb newydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
9 |
9 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16:53
NDM5562 Elin Jones AC (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod 266,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na'r cyflog byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at greu cyflog byw yng Nghymru drwy:
a) sefydlu cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru;
b) gweithio gyda chyflogwyr i esbonio manteision talu'r cyflog byw; a
c) cyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Cyflogau Isel i sicrhau bod yr isafswm cyflog yn codi i lefel y cyflog byw erbyn 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
13 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17:44
6 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:47
NDM5564 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Gohebiaeth ar bapur: hawl y defnyddiwr i ddewis
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.06
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Medi 2014